Beth All Cyngor Cymunedol Llanbethma Ei Wneud?


Mae cynghorau cymuned a thref yw lefel sylfaenol llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae'r testun canlynol yn cael ei gymryd gan y Gymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol (NALC) dogfen (Beth all Cynghorau ei wneud?)

Yn debyg i’r holl bwerau sy’n cael eu rhoi i gyrff cyhoeddus, mae pwerau cynghorau lleol wedi’u diffinio’n fanwl mewn deddfwriaeth a gallai’r manylion hyn gynnwys gofyniad i gael caniatâd corff arall i wneud rhywbeth (er enghraifft, sicrhau cymeradwyaeth y Cyngor Sir i ddarparu maes parcio). Rhaid i Gynghorau Lleol arfer eu pwerau yn unol â darpariaethau cyfraith gyffredinol (er enghraifft, rhaid cael caniatâd cynllunio i godi pafiliwn chwaraeon). Clerc y Cyngor sy’n cadw’r holl fanylion hyn.

Pwerau

Rhestrir y pwerau yn nhrefn yr wyddor. Os gwelwch chi seren wrth bwer, gallai’r Cyngor, yn ogystal ag arfer y pwer ei hun, helpu corff arall i weithredu drwy roi cymorth ariannol.

Achosion Cyfreithiol - Pwer i erlyn ac amddiffyn pob achos cyfreithiol er budd y trigolion. Pwer i gymryd rhan ym mhob ymchwiliad cyhoeddus lleol.
*Adloniant - Pob ffurf ar adloniant cyhoeddus ym mhob mangre. (Mae hyn yn cynnwys cynnal bandiau a cherddorfeydd a hwyluso dawnsio).
Arwyddion – Pwer i godi arwyddion sy’n rhybuddio ynglyn â pheryglon neu sy’n cyhoeddi enw lle, neu arwydd ar safle bws.
*Atal troseddau - gosod cyfarpar a chreu cynlluniau i ddod o hyd i droseddau neu er mwyn eu hatal; rhoi grantiau i awdurdod yr heddlu at y dibenion hyn.
Baddonau - Darparu baddonau a thai golchi (a allai olygu launderette yn yr oes fodern).
Benthyca - Gall Cynghorau Plwyf, Tref a Chymuned fenthyca am hyd at 25 mlynedd drwy ganiatâd benthyca. Rhaid i’r Cyngor gael caniatâd cyn benthyca.
*Caeau Chwarae – Darparu a chynnal a chadw tir at holl ddibenion hamdden awyr agored, gan gynnwys pyllau cychod.
*Clociau a chynnal a chadw clociau cyhoeddus, ar eglwysi ac mewn mannau eraill.
Cynllunio - Mae gan Gynghorau Lleol hawl i gael eu hysbysu ynglyn â phob cais cynllunio sy’n effeithio ar eu hardaloedd ac i gynnig sylwadau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried.
*Datblygu’r celfyddydau a gwella dealltwriaeth ynglyn â’r celfyddydau a’r crefftau sy’n gwasanaethu’r celfyddydau.
Goleuadau - Darparu a chynnal a chadw pob golau ar hyd ffyrdd neu balmentydd, ar yr amod nad yw’r polion dros ryw uchder penodol.
Hawliau Tramwy – Cynnal a chadw llwybrau troed a llwybrau ceffylau.
*Lawntiau Pentref – pwerau i gynnal a chadw lawnt y pentref neu dref.
Lotmenti - Darparu a chynnal lotmenti at ddibenion trin y tir.
Llefydd Parcio - Darparu a rheoli meysydd parcio i geir a beiciau.
*Llochesi – Darparu a chynnal a chadw llochesi at ddefnydd cyffredinol y cyhoedd ac yn arbennig hefyd i deithwyr bysiau.
Mannau Agored - Darparu a chynnal a chadw mannau cyhoeddus, meysydd adloniant a llwybrau troed cyhoeddus.
*Mynwentydd - Darparu a chynnal a chadw mannau claddu, mynwentydd, marwdai ac ystafelloedd post-mortem.
Mynwentydd Eglwysi - Pwer i gyfrannu at gostau mynwent eglwys sy’n cael ei defnyddio a dyletswydd i gynnal a chadw pob mynwent eglwys sydd wedi’i chau os yw Eglwys Loegr wedi trosglwyddo’r ddyletswydd honno.Botwm *Neuaddau - Darparu adeiladau i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus, i fwynhau campau dan do neu weithgarwch corfforol, neu at ddefnydd clybiau neu gymdeithasau sydd ag amcanion hamdden, cymdeithasol neu athletaidd.
*Nofio – Darparu pyllau nofio mewnol neu allanol.
Parciau - Darparu a chynnal a chadw parciau cyhoeddus a chyfleusterau priodol.
Post a Ffôn - Pwer i warantu’r awdurdodau post neu ffôn yn erbyn colled mewn cyfleuster.
Pwer Gwario Cyffredinol - mewn unrhyw sefyllfa nad yw wedi’i chynnwys yn y pwerau penodol a ddisgrifir uchod, gall cyngor wario arian at bob diben sydd, yn ei farn ef, o fudd uniongyrchol i’w ardal neu i’w drigolion. Ni all y cyngor wario mwy na £5.00 y pen am bob etholwr llywodraeth leol yn y plwyf, y dref neu’r gymuned ar yr achosion sy’n codi dan y pwer cyffredinol hwn (ers 1/4/00).
*Pyllau – Pwer i ddelio â phyllau neu lefydd eraill sy’n cynnwys baw neu fater sy’n niweidiol i iechyd pobl.
*Seddi – Darparu a chynnal a chadw seddi cyhoeddus ar y briffordd.
*Sbwriel - Darparu biniau sbwriel mewn strydoedd a rhoi cymorth i ymgyrchoedd sy’n gweithredu yn erbyn sbwriel.
Tai Bach Cyhoeddus – Darparu a chynnal a chadw pob ty bach cyhoeddus.
Tawelu traffig – cyfrannu tuag at gostau gwaith tawelu traffig gan awdurdod y priffyrdd.
Tiroedd Comin - Pwer i ddiogelu pob darn o dir comin sydd wedi’i gofrestru’n derfynol nad oes perchennog cofrestredig arno.
*Trafnidiaeth - creu cynlluniau rhannu ceir a gostyngiadau tacsis; rhoi grantiau i wasanaethau bysiau cymunedol a gwasanaethau bysiau i bobl hyn neu bobl anabl, ymchwilio i drafnidiaeth gyhoeddus, darpariaeth ac anghenion y ffyrdd a thraffig; darparu gwybodaeth am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
*Twristiaeth – Darparu cyfleusterau cynadledda ac annog twristiaeth hamdden a busnes.
Ymylon Ffordd – Pwer i blannu ymylon ffordd a’u cynnal.


Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration